Roedd datrys yr achos o lofruddiaeth ar ddechrau'r haf yn hwb i hyder Gethin Evans fel ditectif. Fe arweiniodd hefyd at swydd dros dro iddo gyda'r ditectif preifat, Margam Powell. Ond mae'r gwaith yn ddiflas, ac mae Gethin yn ysu am gyffro. Yna, un bore, daw ymwelydd annisgwyl i'r swyddfa ac mae Gethin yn cael ei hun yng nghanol achos Green-skinned Gravy. Pam mae Donald Shufflebottom yn gwrthwynebu Roc y Rec, y gig enfawr sydd i'w gynnal yn y dref ddiwedd yr haf? Ble mae Mared Ioan, prif leisydd y band Green-skinned Gravy? A phwy sy'n barod i wneud unrhyw beth i sicrhau llwyddiant Roc y Rec?